Rydym wedi ail-lansio ein Hymgyrch ‘It’s Your Duty to Care | Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu’ - ac mae angen eich help arnom i gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn ag un o droseddau gwastraff mwyaf cyffredin Cymru.
Gellir dod o hyd i’r pecyn cymorth yma.
Oeddech chi’n gwybod bod dros 70% o wastraff tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys eitemau a gwastraff o’r cartref?
Yn amlach na pheidio mae hyn o ganlyniad i ddeiliaid tai yn rhoi eu gwastraff yn nwylo tipiwr anghyfreithlon yn ddiarwybod.
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, sy’n fygythiad uniongyrchol i’r amgylchedd, i anifeiliaid, i gymunedau lleol, ac i’n tirweddau hardd yng Nghymru. Felly, fel erioed, rydym yn awyddus i barhau i weithio ochr yn ochr â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, fel chithau, i helpu i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau gwastraff.
Mae ein hymgyrch Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu | It’s Your Duty to Care, a luniwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn annog deiliaid tai yng Nghymru i wirio bob amser am drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cyflogi unrhyw berson neu gwmni i gludo gwastraff o’u heiddo.
Os na fydd deiliaid tai yn cymryd y camau gwirio angenrheidiol hyn a bod eu gwastraff yn cael ei ganfod wedi’i dipio’n anghyfreithlon, gallent gael dirwy o £300 ac maent mewn perygl o gael eu herlyn am beidio â dilyn eu Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff y Cartref.
Sut gallwch chi helpu:
Gyda’ch help a’ch cefnogaeth chi — gallwn godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ymhellach o Ddyletswydd Gofal o ran Gwastraff y Cartref, dal ati i daclo tipio anghyfreithlon yng Nghymru a gwarchod llawer mwy o bobl rhag cael eu twyllo gan dipwyr anghyfreithlon.
Gyda mwy o addysg ac ymwybyddiaeth, gallwn ostwng canran y gwastraff cartref sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon a sicrhau bod deiliaid tai yn deall y camau cywir y mae angen iddynt eu dilyn wrth waredu eu gwastraff.
Cefnogwch ein hymgyrch drwy ddefnyddio’r adnoddau i’w lawrlwytho o’r Pecyn Cymorth ar draws eich sianelau cyfathrebu eich hunain, gan ddefnyddio’r dolenni isod i dagio TTC:
Facebook: Fly-tipping Action Wales
Twitter: @FtAW
Instagram: flytipping_action_wales
Diolch am eich cymorth a’ch cefnogaeth. Gyda’n gilydd gallwn daclo tipio anghyfreithlon.