Rydw i'n gludwr gwastraff

Os ydych chi’n gludwr gwastraff masnach mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch gofrestru ar-lein neu gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o wybodaeth ar 0300 065 3000.

Os ydych chi’n cludo gwastraff heb gofrestru gall arwain at eich erlyn a dirwyon diderfyn.

Mae yna system ddwy haen yn seiliedig ar lefel y risg. Bydd gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich helpu i benderfynu pa lefel cofrestru sy’n briodol i chi. 

Haen Is

Mae cofrestriad Haen Is yn rhad ac am ddim ac yn para’n amhenodol, ac yn berthnasol i chi os ydych chi:

  • yn elusen neu’n sefydliad gwirfoddol
  • yn awdurdod casglu gwastraff 
  • yn awdurdod gwaredu gwastraff   
  • yn awdurdod rheoleiddio gwastraff  
  • yn gludwr sydd ond yn cludo gwastraff a gynhyrchir ganddyn nhw eu hunain (oni bai ei fod yn wastraff adeiladu neu ddymchwel
  • yn gludwr sydd dim ond yn cludo gwastraff, yn frocer sydd ond yn trefnu i waredu neu adfer gwastraff, neu’n ddeliwr sydd ond yn ymwneud â:

                           1. sgil-gynhyrchion anifeiliaid   
                           2. gwastraff o fwyngloddiau neu chwareli  
                           3. gwastraff o safleoedd amaethyddol

Haen Uwch

Mae cofrestriad Haen Uwch yn £154 ac yn para am 3 blynedd. Mae’r haen hwn yn berthnasol i chi os nad ydych chi’n perthyn i unrhyw un o’r categorïau a restrir yn yr adran Haen Is uchod.
 

Cludwyr Metel Sgrap

Dan Ddeddf Delwyr Metel 2013 (metel sgrap), os ydych chi’n casglu metel sgrap mae’n rhaid i chi gael trwydded casglwr hefyd gyda’ch Awdurdod Lleol. Mae hyn yn eich galluogi i weithredu fel casglwr yn ardal yr Awdurdod Lleol sy’n darparu’r drwydded. 

Mae’n rhaid cael trwydded ar wahân gan bob Awdurdod Lleol yr ydych am weithredu ynddo ac mae’n rhaid i chi gael copi o’r drwydded wedi’i harddangos ar eich cerbyd. Am ragor o wybodaeth am y cais a’r ffi, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Cliciwch yma i wneud cais am drwydded ar gyfer cludwyr metel sgrap.

Rhaid ichi lenwi dogfen gwastraff, fel nodyn trosglwyddo ar gyfer pob llwyth o wastraff rydych chi’n ei gasglu. Yr unig eithriad yw os caiff ei gasglu gan ddeiliad tŷ; fodd bynnag, rhaid ichi lenwi dogfen o’r fath ar y dyddiad y bydd y gwastraff yn cael ei drosglwyddo.

Mae’r daflen a’r daflen ffeithiau ganlynol yn cynnwys canllawiau ynglŷn â sut i ddod yn gludydd gwastraff cofrestredig a sut i weithredu fel cludydd gwastraff mewn modd cyfreithlon, diogel a chyfrifol.
 

Cludwyr Gwastraff Peryglus

Oherwydd y goblygiadau amgylcheddol difrifol sy’n gysylltiedig â chlirio a gwaredu gwastraff peryglus, mae gan gludwyr gwastraff peryglus reolau a rheoliadau ychwanegol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw, yn ogystal â rheoliadau safonol ar gyfer cludwyr gwastraff.

Pan gaiff gwastraff peryglus ei symud i neu o unrhyw leoliad yng Nghymru, mae angen cael nodyn cludo gwastraff peryglus i fynd ag ef, a rhaid cadw’r nodyn hwn am 3 blynedd.

Hefyd, rhaid llenwi ffurflenni cludo gwastraff peryglus er mwyn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch llwythi o wastraff peryglus sydd wedi cael eu derbyn, eu cludo ymaith neu eu gwaredu ar safle penodol. Dyma un o ofynion gorfodol Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005.

I gael mwy o wybodaeth a chanllawiau’n ymwneud â chludo a gwaredu gwastraff peryglus, edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch