Dwi'n dirfeddiannwr / landlord
Waeth a ydych chi’n dirfeddiannwr preifat neu’n landlord ar eiddo, os ydych chi’n rhoi eich gwastraff i rywun, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr unigolyn sy’n ei gludo i ffwrdd wedi cofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fel cludwr gwastraff.
Y term am hyn yw “Dyletswydd Gofal Gwastraff” ac mae canllawiau llawn ar gael ar ein tudalen Dyletswydd Gofal.
Tirfeddianwyr
Dan gyfraith gyfredol yng Nghymru, cyfrifoldeb tirfeddiannwr yw talu i symud a gwaredu unrhyw wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eu tir.
Os ydych chi’n dod o hyd i wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir dylech:
- Gofnodi cymaint o fanylion â phosibl ac riportio y mater i’ch awdurdod lleol a thynnu llun o’r gwastraff os yw’n bosibl.
- Gofynnwch i’ch cymdogion a ydyn nhw wedi gweld unrhyw un neu unrhyw beth amheus.
- Byddwch angen gwaredu’r gwastraff yn ofalus, cofiwch wirio gyda’ch awdurdod lleol eu bod wedi casglu unrhyw dystiolaeth y gallan nhw fod ei hangen ar gyfer ymchwiliad dilynol cyn clirio’r gwastraff.
- Byddwch yn ofalus. Gall peth gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon fod yn beryglus. Peidiwch ag agor bagiau neu ddrymiau a byddwch yn ymwybodol y gall pentyrrau o bridd fod wedi’i halogi neu guddio deunydd peryglus.
- Wrth drefnu i waredu gwastraff, cofiwch gydymffurfio â’ch Dyletswydd Gofal drwy ddefnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig.
- Os ydych chi’n symud gwastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar eich tir, nid oes angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff i’w gludo i ffwrdd ond mae’n rhaid i chi ei gludo i safle cofrestredig.
- Dylech gadw manylion llawn o’ch costau cludo a gwaredu. Bydd erlyn yn llwyddiannus yn golygu hefyd y gall eich costau am gludo’r gwastraff i ffwrdd gael eu talu gan y sawl a gyflawnodd y drosedd.
Cofiwch fod pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn gweithredu’n anghyfreithlon felly dydyn ni ddim yn argymell eich bod yn codi’r mater gyda nhw’n uniongyrchol. Os ydych chi’n gweld rhywun yn tipio’n anghyfreithlon, peidiwch â pheryglu’ch hun, drwy geisio ymyrryd, ffoniwch 101 a rhowch wybod i’r heddlu ar unwaith o leoliad diogel.
Gallwch ddiogelu eich tir rhag achosion o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon drwy wneud y canlynol:
- Cyfyngu mynediad i’ch tir drwy osod gatiau neu rwystrau ffisegol (byndiau pridd wedi’u gosod yn strategol, cyffion coed, cerrig mawr ac ati) er mwyn atal mynediad i’r tir ac yn ddelfrydol mewn ffordd sy’n cyd-fynd a’r amgylchedd naturiol.
- Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n rhwystro hawl dramwy cyhoeddus yn barhaol pan fyddwch chi’n gosod unrhyw fath o rwystr.Gwnewch yn siŵr bod gatiau yn cael eu cadw ar gau, ac, os oes modd, eu bod yn cael eu cloi pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.
- Gwella gwelededd eich tir fel nad yw pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn gallu cuddio. Mae’n well gan bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon gyflawni eu troseddau yn guddiedig.
- Ystyried gosod neu wella goleuadau lle bynnag y bo’n bosibl.
- Ystyried gosod arwyddion ataliol priodol a chamerâu cylch cyfyng.
- Clirio unrhyw wastraff sy’n cael ei ollwng yn syth a chyn gynted ag y bydd yr awdurdodau wedi chwilio am dystiolaeth er mwyn peidio ag annog pobl eraill i ychwanegu ato.
Landlordiaid
Fel landlord, mae eich eiddo rhent yn cael ei ddosbarthu fel busnes. Bydd unrhyw ddeunyddiau gwastraff sy’n dod o glirio neu gynnal eich eiddo yn cael eu dosbarthu fel gwastraff busnes.
Cyfrifoldeb y landlord yw cludo’r deunyddiau hyn i gyfleuster gwastraff sydd wedi’i awdurdodi i dderbyn y math hwn o wastraff.
Cyn gwaredu dodrefn, dylech ystyried cysylltu yn hytrach ag elusen ailddefnyddio leol a chael rhywun i gasglu eich hen ddodrefn am ddim gan roi bywyd newydd iddo yr un pryd. Mae manylion elusennau lleol y gellir ymddiried ynddyn nhw ar gael ar wefan yr awdurdod lleol dan sylw dan 'casgliadau gwastraff yr aelwyd/swmpus'.
Pan fo tenantiaid yn eich eiddo, mae’n rhaid i chi sicrhau:
- Bod tenantiaid yn gwaredu eu gwastraff yn briodol ac yn dilyn canllawiau’r awdurdod lleol dan sylw sydd ar gael eu gwefan.
- Bod biniau a bagiau’n cael eu darparu ar gyfer tenantiaid yn ogystal â mân diogel i’w storio.
- Bod tenantiaid yn gwybod na ddylen nhw waredu eu gwastraff ym miniau preswylwyr eraill neu ym miniau gwastraff stryd.
- Bod tenantiaid yn ymwybodol o’r diwrnod casglu gwastraff ac na ddylid gadael unrhyw wastraff ychwanegol allan ar y stryd.
Pan fo eich eiddo yn wag, mae’n rhaid i chi sicrhau:
- Bod unrhyw wastraff sy’n cael ei adael gan denantiaid blaenorol yn cael ei drin fel gwastraff busnes.
- Eich bod yn cydymffurfio â’ch dyletswydd gofal os ydych chi’n talu unigolyn neu gwmni i gludo’r gwastraff i ffwrdd ar eich rhan.
- Eich bod yn cael y drwydded cludwyr gwastraff cywir os ydych chi’n bwriadu cludo a gwaredu’r gwastraff eich hun.
- Eich bod yn cadw unrhyw nodiadau trosglwyddo gwastraff fel tystiolaeth eich bod yn gwaredu eich gwastraff yn gyfreithiol.
Gallwch fynd i wefan Cymru yn Ailgylchu i ddysgu mwy am gyfleusterau gwastraff yr aelwyd yn eich ardal, neu cysylltwch â’ch awdurdod lleol i wybod mwy ynglŷn â lle gallwch waredu eich gwastraff busnes.
Darllenwch ein taflen cyngor i landlordiaid am ragor o wybodaeth.