Yr wythnos hon, ymunodd swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru, Taclo Tipio Cymru, Heddlu De Cymru, Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â'u gilydd mewn ymgyrch stopio a chwilio amlasiantaethol gydlynol a oedd yn targedu cludwyr gwastraff anghyfreithlon sy'n gweithredu ar draws Tir Comin Gelligaer a Merthyr. Yn aml, mae'r gweithredwyr twyllodrus hyn yn casglu gwastraff o gartrefi a busnesau heb y trwyddedau cywir, gan gyfrannu at dipio anghyfreithlon, difrod amgylcheddol, a thanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon. Roedd hyn yn rhan o ymgyrch ehangach i godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb cyfreithiol pawb o ran gwaredu gwastraff.
Yn ystod yr ymgyrch, stopiodd ac archwiliodd swyddogion nifer o gerbydau a chyhoeddwyd nifer o hysbysiadau gorfodi. Mae'r gorfodi rhagweithiol hwn yn anfon neges glir: ni fydd gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn cael ei oddef. Ond dim ond un rhan o'r ateb yw gorfodi — mae ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb y cyhoedd yr un mor hanfodol.
O dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae gan bob perchennog tŷ ddyletswydd gofal gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. Mae hyn yn golygu defnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig, gofyn am nodyn trosglwyddo gwastraff neu dderbynneb, cofnodi rhif cofrestru'r cludwr, a pheidio byth â throsglwyddo gwastraff i rywun sy'n curo ar eich drws heb ddogfen adnabod na gwaith papur. Os bydd eich gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, gallech chi gael eich dal yn gyfrifol — hyd yn oed os gwnaethoch chi dalu rhywun i'w gymryd i ffwrdd.
Cyn trosglwyddo eich gwastraff, mae'n hanfodol gwirio bod y cludwr wedi'i gofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ein cofrestr cludwyr gwastraff.
Mae gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn niweidio ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt, yn costio miliynau i drethdalwyr er mwyn clirio’r llanast, yn niweidio cymunedau lleol, ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon. Drwy gael yr holl wybodaeth angenrheidiol a gwneud dewisiadau cyfrifol, rydych chi'n helpu i amddiffyn eich cymuned a'r amgylchedd.
Os gwelwch chi weithgarwch gwastraff amheus neu dipio anghyfreithlon, rhowch wybod amdano i'ch cyngor lleol. Gyda'n gilydd, gallwn atal troseddau gwastraff a chadw ein cymunedau'n lân ac yn ddiogel.