Teiars yw un o’r eitemau sydd i’w gweld yn fwyaf aml ymysg gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon. Cyflwynwyd cynllun Tagio Teiars Casnewydd i helpu i leihau’r nifer o deiars sy’n cael eu tipio’n anghyfreithlon.
Mae'n gynllun gwirfoddol a’i nod yw gweithio gyda garejys yng Nghasnewydd i'w gwneud yn anoddach i weithredwyr twyllodrus gael gafael ar deiars gwastraff. Gofynnir i garejys sy'n ymuno â'r cynllun farcio eu teiars gyda chyfeirnod unigryw. Os yw’r teiars hyn yn cael eu gwaredu’n anghyfreithlon, dylem allu eu holrhain yn ôl i'r cwmni/unigolyn a'u casglodd. Nod y cynllun hwn yw ei gwneud yn anodd i gasglwyr twyllodrus gyflawni troseddau gwastraff.
Mae'r garejys canlynol wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Tagio Teiars Casnewydd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i waredu teiars yn gyfrifol a'u bod yn gweithio gyda ni i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd.
Mae cynllun Tagio Teiars Casnewydd yn brosiect partneriaeth a gefnogir gan: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd yn Un, Taclo Tipio Cymru, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Truck & Bus Wales & West |
NP19 4SL |
57 Tyres ltd |
NP19 4ED |
Scott's MOT Centre |
NP19 0BH |
Sinclair Volkswagen Newport |
NP19 0HE |
Robins & Day Newport |
NP19 4QE |
Samko ltd |
NP19 4SJ |