Datgelodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Taclo Tipio Cymru heddiw (14 Rhagfyr 2021) mai Caerdydd (301), Casnewydd (59), Sir Gâr (41) a Chaerffili (40) yw'r ardaloedd sy'n perfformio orau o ran cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig er mwyn mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru.
Ac mae adroddiad 2020-21, sy'n dadansoddi digwyddiadau a gofnodwyd yn ôl awdurdod lleol rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 yn unig, yn dangos mai Castell-nedd Port Talbot (7) a Rhondda Cynon Taf (7) a gyflawnodd y nifer fwyaf o erlyniadau tipio anghyfreithlon llwyddiannus — gyda Chastell-nedd Port Talbot yn arwain y ffordd o ran gorfodi am yr wythfed flwyddyn yn olynol.
Cofnodwyd cyfanswm o 25,047 o gamau gorfodi gwastraff (gan gynnwys erlyniadau a hysbysiadau cosb benodedig, ond hefyd ymchwiliadau a gwiriadau stopio a chwilio) yng Nghymru dros y cyfnod o ddeuddeng mis.
Er gwaethaf cynnydd cyffredinol o 22% yn yr achosion o dipio anghyfreithlon o’i gymharu ag adroddiad 2019-2020, sy'n debygol o fod o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a orfodwyd er mwyn atal Covid-19 rhag lledaenu, llwyddodd llawer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion ac Abertawe i gofnodi gostyngiad mewn digwyddiadau yn eu hardaloedd lleol.
Sir Benfro gofnododd y gostyngiad blynyddol mwyaf, sef 14%, ac yna Ceredigion (gostyngiad o 13% yn nifer y digwyddiadau), tra bod Abertawe wedi sicrhau gostyngiad o 3%. Yn y cyfamser, Powys a gofnododd y nifer ail isaf o achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru (y tu ôl i Geredigion).
Er mwyn parhau ag ymdrechion ledled Cymru yn y frwydr hirdymor yn erbyn troseddau gwastraff, mae Taclo Tipio Cymru yn galw ar berchnogion tai yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael gwared ar eu sbwriel cartref ychwanegol yn gyfrifol, drwy ddilyn eu Dyletswydd Gofal Gwastraff.
Meddai Neil Harrison, Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru: "Er ei bod yn siomedig gweld cynnydd o ran digwyddiadau tipio anghyfreithlon, yn enwedig ar ôl gostyngiad parhaus o flwyddyn i flwyddyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rhaid i ni beidio ag anghofio bod swyddogion gorfodi gwastraff ledled y wlad wedi bod dan bwysau eithafol yn sgil y pandemig coronafeirws a chafodd llawer o'r gweithwyr allweddol hyn eu dargyfeirio dros dro i ddelio ag ymateb yr awdurdodau lleol i coronafeirws. Mae'r pandemig hefyd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau gwastraff, gyda mwy o bobl yn gwneud gwaith adnewyddu a symud cartref ar adeg pan nad oedd canolfannau ailgylchu gwastraff cartref ar gael neu fod cyfyngiadau ychwanegol ar waith yn ystod y pandemig.
"Fel pob sector arall, roedd timau'n gweithio gyda llai o staff, ond eto roedd y ffaith eu bod yn dal i fod wedi gallu cyflawni dros 25,047 o gamau gorfodi yn dyst i waith caled ac ymrwymiad ein hawdurdodau lleol a barhaodd i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol ar lawr gwlad yn ystod cyfnod heriol iawn.
Yn anffodus, mae dwy ran o dair o achosion o dipio anghyfreithlon yn dal i gynnwys gwastraff cartref, a dyna pam yr hoffwn atgoffa deiliaid tai i warchod eu hunain drwy wirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser fod y person y maen nhw’n ei ddefnyddio i waredu unrhyw sbwriel ychwanegol o'u cartref yn gludwr gwastraff cofrestredig. Fel arall, mae yna berygl iddynt dderbyn dirwy o hyd at £300 os canfyddir bod eu gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon. Gall deiliaid tai hefyd gael dirwy o hyd at £5,000 a chael cofnod troseddol os eir â nhw i'r llys".
Meddai Tim Jones Swyddog Gorfodi Gofal y Strydoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae Tîm Gorfodi Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon ac erlyn pob trosedd lle mae diogn o dystiolaeth ar gael.
"Yn dilyn blwyddyn anodd lle cafodd staff gorfodi eu dargyfeirio i gynorthwyo gyda chanlyniadau Storm Dennis ac yna dyletswyddau cysylltiedig â Covid, rydym bellach yn ôl yn staff llawn ac yn gobeithio am lawer mwy o erlyniadau llwyddiannus yn 2021-22".
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae'n achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol — gyda'r canlyniadau’n ddirwy o hyd at £50,000 neu garchar i'r troseddwr.
Wrth drefnu i waredu gwastraff cartref, mae'n ofynnol i bobl yng Nghymru wirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bod y person neu'r cwmni y maent yn ei ddefnyddio yn gludwr gwastraff cofrestredig drwy fynd i naturalresources.wales/checkwaste neu ffonio 03000 653000. Gall methu â gwneud y gwiriadau priodol hyn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £300 os caiff y gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o reoli a gwaredu eich gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol, ewch i DutyofCare.wales, dilynwch @FtAW ar Twitter neu chwiliwch am @FtAWales ar Facebook.